|
Latest News
Y Gymraeg ym Morgannwg
Wyt ti’n siarad Cymraeg? Wyt ti eisiau cyfle i wella dy Gymraeg yma yn y Brifysgol? Cynigir cyfleoedd i astudio a defnyddio’r Gymraeg mewn rhai pynciau yma ym Morgannwg, e.e. drama, cerddoriaeth, cyfryngau, y gyfraith, chwaraeon, addysg a mwy. Yn ogystal â hyn, gall rhai myfyrwyr astudio ambell fodiwl Cymraeg Proffesiynol fel rhan o’u hastudiaethau, ar y cyd â Saesneg, Hanes a phynciau eraill.
Er mwyn canfod mwy o wybodaeth, gall myfyrwyr gysylltu â Swyddog Cyfathrebu Cymraeg y Brifysgol neu gyda’r cysylltydd cyfrwng Cymraeg penodol yn eu cyfadrannau – mae rhestr lawn ar gael ar-lein. Gall myfyrwyr hefyd drafod cyfleoedd pellach a all fod ar gael, megis ‘sgrifennu eu traethodau yn Gymraeg a chael cymorth bugeiliol ac ysgrifenedig drwy gyfrwng y Gymraeg.
Cofiwch hefyd fod gan yr Undeb Myfyrwyr Gymdeithas Gymraeg ar gyfer ei myfyrwyr, a bod modd canfod mwy am eu gweithgareddau ar Facebook: Cymdeithas Gymraeg Myfyrwyr Morgannwg. Mae’n fanteisiol i chi ddefnyddio a datblygu eich Cymraeg wrth astudio, a gall wneud gwahaniaeth yn y dyfodol pan fyddwch yn chwilio am swydd. Mwynhewch y tymor cyntaf!
I wybod mwy am y Gymraeg yma, ewch i
www.glam.ac.uk/cymraegmorgannwg
a www.glam.ac.uk/wales
neu Facebook: Non Stevens Morgannwg!
The above refers to the opportunities for Welsh speaking students to use and develop their Welsh language skills here at the University. The University offers some welsh medium provision to students within some subject areas and contacts for welsh speaking students within each Faculty. If you’d like to know more about the services available or if you’d like to know how you can learn Welsh here at the University – go to www.glam.ac.uk/wales
Pob Lwc / Good Luck
Non (Stevens) – Swyddog Y Gymraeg / Welsh Language Officer
Facebook: Non Stevens Morgannwg